Y Bywyd Gwledig Traddodiadol.

Mae bythynnod Fferm Bontnewydd yn cynnig y ddihangfa ddelfrydol i gyplau a theuluoedd sy’n chwilio am heddwch a thawelwch y bywyd gwledig traddodiadol.

Amdanom ni

Cychwynodd John ac Eirian Williams redeg Bythynnod Fferm Bontnewydd fel llety hunan-ddarpariaeth ddeng mlynedd yn ôl, pan wnaethon nhw benderfynu cyfuno eu hangerdd am ffarmio a’r bywyd awyr agored gyda’r awydd i rannu eu hamgylchedd hyfryd gyda phobl eraill. Mae’r cwpwl wrth eu boddau yn croesawu ymwelwyr i’r bythynnod a’u fferm gan gynnig iddynt flas ar fywyd Cymraeg yng nghefn gwlad.

Mae gan John atgofion melys iawn am Bontnewydd. Cafodd ei eni ar y fferm a bu’n magu defaid a da tewion ar y fferm odro hon ar hyd ei oes. Daeth Eirian hefyd i garu cefn gwlad Cymru yn ifanc iawn. Cafodd ei magu yn y Gymru Wledig ac mae hi wedi byw yn Bontnewydd ers 25 mlynedd. Rhyngddynt mae gan y ddau gyfoeth o wybodaeth am yr ardal hon a gallant gynnig cyngor i ymwelwyr ynglyn â beth i’w wneud, llefydd i ymweld â nhw ac i fwyta ynddynt. Mae’r ddau yn mwynhau cerdded yn yr awyr agored ac maent yn fwy na pharod i roi gwybodaeth i ymwelwyr am y teithiau cerdded gorau yn yr ardal.

Mae ffermio Bontnewydd yn cadw’r ddau yn brysur ond mae nhw yn fwy na pharod i dreulio amser gyda’u hymwelwyr gan ddangos iddynt gyfoeth bywyd fferm. Mae ar y fferm 120 o wartheg godro, da tewion a diadell o ddefaid. Felly mae yna ddigon i’w wneud. Bydd y godro yn digwydd ddwywaith y dydd a gellwch edrych ar hyn o’r balconi gwylio sy’n perthyn i’r bythynnod. Bob gwanwyn mae’r ŵyn bach yn cael eu geni, a lloi bach yn ddiweddarach yn y flwyddyn, felly gall yr ymwelwyr helpu i fwydo’r anifeiliaid hyn. Mae yna foch Kune Kune ar y fferm hefyd.

Yn ogystal â’r anifeiliaid bydd cyfle i’r ymwelwyr weld amrywiaeth o adar a physgod. Yn wir ni all unrhyw bysgotwr gwerth ei halen gadw draw. Mae’r afonydd Banwy ac Efyrnwy yn enwog am eu pysgod a digon o frithyll, annog a samwn i’w dal ynghyd â’r golygfeydd godidog a thawel. Mae’r bythynnod hunan ddarpar hyn yn cynnig y dewis gorau posibl i unrhyw un sydd am fynd ar wyliau pysgota.

Cliciwch yma i ddarllen ein datganiad mynediad.

English

Cysylltwch â ni

Os am ragor o wybodaeth am y bythynnod a’u lleoliad, neu am wybod am weithgareddau addas yn ystod eich arhosiad cysylltwch â:

Galw: 01938 500376
Ebost: bontnewydd@supanet.com

Neu llenwch ein ffurflen gyswllt >